Canllaw i'r Claf - Ocsifesurydd Pwls (Nonin 3230)
2
Cyflwyniad
Croeso i'n Canllaw i'r Claf i'ch cynorthwyo i ddefnyddio'ch Ocsifesurydd Pwls iHealth.
Gwybodaeth Bwysig
Defnydd Bwriadedig
Darperir eich Ocsifesurydd Pwls Nonin 3230 i'w ddefnyddio ar y cyd â'r ddyfais a'r feddalwedd
myMovbile. Cyfeiriwch at yr adran 'defnydd bwriadedig' yng nghanllaw myMobile i gael rhagor o
wybodaeth.
Cyfarwyddiadau ynghylch sut i'w ddefnyddio
Pan ofynnir ichi fesur eich dirlenwad ocsigen gan myMobile, dilynwch y camau isod:
CAM 1
Eisteddwch yn gyfforddus mewn cadair ac ymlaciwch am oddeutu 5
munud cyn ichi gymryd eich darlleniad. Yn unol â chyfarwyddyd
myMobile, cynheswch eich dwylo a'ch bysedd cyn gosod y monitor ar
eich bys.
CAM 2
Daliwch yr Ocsifesurydd fel bod y sgrîn arddangos yn eich wynebu
chi, ac yn ofalus rhowch fys blaen eich llaw dde i mewn i'r ddyfais fel
y dangosir yn y llun gyferbyn (heb ewinedd ffug na farnais ewinedd
lle y bo'n bosibl). Bydd y sgrîn arddangos ar myMobile yn dweud
wrthych y gall gymryd hyd at 90 eiliad i gael mesuriad.
CAM 3
Ar ôl i myMobile gyhoeddi'r mesuriad, gallwch dynnu'r ocsifesurydd
pwls i ffwrdd.
CAM 4
Os yw'r mesuriadau'n fwy neu'n llai na'r hyn sy'n arferol, efallai y bydd myMobile yn gofyn ichi
ailadrodd y darlleniad unwaith eto - dechreuwch Gam 1 unwaith eto.